Croeso, rhif
i Wefan Cynefin.
Arwyddwch ein
Gan mai nid rhif ydych chi!
Cwmni Theatr Labrinth Synhwyraidd Cymunedol yw Cynefin.
Ystyr hynny yw ein bod ni'n creu Theatr sydd yn cydio ym mhob synnwyr ac sydd yn cael ei berfformio mewn Labrinthau wedi eu hadeiladu gyda ac er mwyn cymunedau.
Rydym yn creu
Labrinth y tu fewn i adeiladau trwy hongian llenni o weiren, neu trwy
gerflunio'r tirlun i greu lwybrau tywyll a throellog.
Mae ein perfformiadau yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd a chymunedau camu allan
o bwysau 'gwneud’ ac ymlacio i fewn i'r profiad o jest 'bod' yn llwyr gyda'r hyn
sydd yn digwydd.
Ein nod yw -
"Breuddwydio i fywyd, eiliadau a rannwyd mewn gofod ac amser ble trawsffurfir
ofn a chyffredinedd yn arswyd a syndod a daw’r mewnol a’r allanol yn un."
Mae'r wefan yn cael ei diweddaru yn gyson, felly piciwch draw eto a chroeso i
chi gynnig awgrymiadau ar sut i'w wella..